Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17 Mai 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol: cyflawni’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddoriaeth
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynhyrchu Ynni ar y Môr
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau’r risg o fod yn agored i lifogydd a’r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21
(30 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
(30 munud)
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022
(15 munud)
NDM8001 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 18 Mai 2022